Wednesday 11 March 2009

Pwrpas y Blog

Croeso i'r blog! Mae i'r blog hwn nifer o bwrpasau, ac fe'u hystyrir yn eu crynswth fel sail i ddatblygu a chodi ymwybyddiaeth o Gymru a'r Gymraeg ymysg ei darllenwyr. Byddaf hefyd yn rhoi ambell i gyfeiriad personol o dro i'w gilydd yn y blog. Bydd y cynnwys yn dilyn fy chwant bersonol o flogio trwy gyfrwng pa bynnag un o'm tri prif iaith brofessiynol: y Gymraeg, Saesneg neu Ffrangeg. Fodd bynnag, os cysylltwch a mi yn eich dewis iaith o'r tair hyn, ceisiaf eich ateb yn ol yn yr iaith honno.

Nid wyf am ail-adrodd beth sydd eisoes yn fy mhroffil bersonol ar gyfer egluro fy nghefndir, boed fel unigolyn neu fel person proffesiynol. O'r herwydd digon am y tro yw ceisio esbonio paham y blog ac am beth (am y rhan fwyaf) fydd ei gynnwys.Digon tila yr wyf wedi darganfod ar y cyfan yw gwybodaeth llawer o'n cymdogion daearyddol (efallai o ddewis) a'n cyd-Ewropeiaid am Gymru a'r Gymraeg. Mae'n debyg os ydych chwithau fel Cymry Cymraeg mam-iaith fel finnau yn ymwybodol o hyn. Gan hynny, gobeithiais greu yma Llysgenhadaeth rhithwir am Gymru a'n hiaith.

Trwy hyn, a thrwy rhyngweithio a'm darllenwyr yn eu dewis hiaith - boed hi'n Gymraeg, Saesneg neu Ffrangeg - y gallaf ddarparu gwybodaeth pellach iddynt am ein gwlad, ei thraddodiadau, ei diwylliant, ei hanes, ei sefyllfa boliticaidd gyfoes a phethau eraill a all fod o ddidordeb iddynt. Yn gyntaf oll, ni honnaf fod yn arbenigwr ar y meysydd hyn i gyd, nac ychwaith ar bob agwedd ar fywyd Cymraeg a Chymreig ein gwlad. Byddaf felly yn cynnig hynny o wybodaeth sydd gennyf yn fy meysydd arbenigol i - yn arbennig yr iaith Gymraeg fodern, llenyddiaeth, hanes a gwleidyddiaeth. Mae'n digon posibl na fyddaf yn gallu sicrhau ateb llawn bob tro, nac ychwaith yn gallu ateb pob cwestiwn. Mewn achosion o'r fath, y cyngor fydd i gyfeirio holwr y cwestiwn at arbenigydd neu gyfeiriad arall lle y gall darganfod y gwybodaeth a fynn.

Gan hynny, fydd yn bosibl i mi ddatgan yn syth nad wyf yn gwybod digon o Ddawnsio Gwerin yng Nghymru, ond yr wyf yn gwybod cyfeiriad Ysgrifennydd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru. Fodd bynnag nid wyf yn gyfrifol am unrhyw golled na niwed a ddioddefir oherwydd y wybodaeth a ddarperir gan unigolion, cyrff a safleoedd gwe a gyfeirir atynt yn yr atebion. Defnyddir hwy yn unig fel ffynhonellau a all fod o ddefnydd i'r rhai a fynn rhagor o wybodaeth arbenigol nas gallaf fi ei gynnig yma.

Os gall hyn o flog godi proffil Cymru a'n hunaniaeth yn fyd-eang, roedd yn ymarferiad gwerth ei wneud.

No comments:

Post a Comment