Sunday 1 March 2009

Proffil yn Gymraeg

Dyma fi ar ein Diwrnod Cenedlaethol yn agor y blog hwn. Ond yn gyntaf, dyma ychydig o fanylion personol amdanaf. Byddaf yn ysgrifennu rhagor yn ddiweddarach am bwrpas y blog.

----------------------------------------------------------------------------

SIÔN REES WILLIAMS LLB. (Anrh.), Cert. TESOL, MCIL


Teulu a Statws Priodasol
Ganwyd 17 Mai 1968. Llanelwy, Gogledd Ddwyrain Cymru.

Unig blentyn John Ellis (1924-2008), Llenor dwy-ieithog Cymraeg/Saesneg a adnabuwyd yng Ngorsedd fel Fy Machgen Gwyn a Joan Rees Williams (1925- ).

Priododd 19 Rhagfyr 2008 â Miranda Constance Griffin (1966-), therapydd clyw a merch ganol yr Athro Jasper Griffin (1937- ) Darlithydd yn y Clasuron, Coleg Balliol, Rhydychen a Dr Miriam Griffin (1935- ), Darlithydd yn y Clasuron, Coleg Somerville, Rhydychen.

Llandrillo yn Rhos i Orllewin Swydd Sussex. 1968-1976.
Gyda fy rhieni, fe symudais i Orllewin Sussex yn fuan ar ôl fy mhenblwydd yn flwydd oed, gan ddechrau yn ysgol feithrin yn Cuckfield ac yna symud i St Mark's CofE Primary School, Staplefield a Warninglid CP School yn yr un swydd. Penderfynwyd yn fuan iawn dylwn fod o leiaf yn ddwy-ieithog, a siaredais dim ond y Gymraeg gyda'm tad a’r Saesneg gyda fy mam. Roedd fy athrawes dosbarth yn Warninglid yn Ffrances, a bu hyn o gymorth mawr i ddysgu'r iaith honno yn gynnar iawn hefyd.

Gogledd Orllewin Cymru i Orllewin Swydd Efrog. 1976-1989.
Dychwelais gyda’m rhieni i ogledd orllewin Cymru adeg y Nadolig 1976 a mynychais ysgolion cynradd ym Mhenisarwaun, Gwynedd ac yn Llandegfan, Ynys Môn.

Myfi oedd y disgybl olaf i astudio 4 iaith ar gyfer TAU Lefel O yn Ysgol Brynrefail Llanrug, Gwynedd: Cymraeg (Iaith Gyntaf), Ffrangeg, Lladin a Saesneg yn 1984 a bu i mi lwyddo mewn 9 arholiad. Yn 1986, llwyddais newn 3 TAU Lefel A – a’r unig ymgeisydd i astudio’r Gymraeg (Gramadeg, Iaith a Llenyddiaeth) – a’r Saesneg. Enillais 2 Ysgoloriaeth Academaidd.

Euthum ymlaen i astudio Cyfraith Byd Busnes ym Mhrifysgol Huddersfield, 1986-1989. Ym mis Mehefin, derbyniais Radd o 2:1 LLB. (Anrh.).

Hyfforddiant mewn Dysgu Saesneg Iaith Dramor. 1992 a 1995.
Derbyniais y Dystysgrif City and Guilds 9281 mewn Dysgu Sgiliau Sylfaenol gyda’r pwyslais ar Ddysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL, h.y. y rhai sy’n preswylio ym Mhrydain) ym mis Mawrth 1995.

Yr oeddwn eisoes wedi cwblhau Cwrs Rhagarweiniol mewn Dysgu Saesneg Iaith Dramor gyda’r Coleg Technegol, Huddersfield (mis Ionawr-mis Chwefror 1992), ac ym mis Gorffennaf 1995, bu i mi lwyddo yn arholiad Coleg y Drindod Llundain a derbyn y Dystysgrif mewn Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL, h.y. i unrhyw berson yn astudio’r Saesneg trwy’r byd) ar ôl cwblhau’r cwrs dwys yn llawn amser (4 wythnos/130 awr).

Swyddog ieithyddol dros siaradwyr y Gymraeg. 1995-1997.
Roeddwn yn Swyddog Hawliau Iaith dros y mudiad cenedlaethol Cefn (http://www.cefn.net/) rhwng 1995-1996.

Fe’m hetholwyd fel Swyddog yr Iaith Gymraeg cyntaf y Mudiad Ewropeaidd (http://www.europeanmovement.org/) am y flwyddyn 1996-1997.

Gyrfa fel athro cymwysedig yn y Gymraeg, Ffrangeg a’r Saesneg.
Huddersfield, Lloegr;Gif-sur-Yvette, Ffrainc; Paris, Ffrainc; Coleg Harlech CYG, Gogledd Orllewin Cymru; Lublin, Gwlad Pwyl a Chaergrawnt a Dunstable, Lloegr. 1989-1995, 1997-2001 ac Er 2005.
Roeddwn eisoes wedi bod yn assistant Saesneg hynod o lwyddiannus yn Lycée de la Vallée de Chevreuse yn département Essonne, Ffrainc ac yn diwtor gwirfoddol gyda Chymdeithas Gymreig Huddersfield, ond dechreuodd fy ngyrfa broffesiynol o ddysgu’r Gymraeg a’r Saesneg ddechrau ym Mharis ym mis Mehefin 1997.

Ysgolion Iaith Saesneg Preifat. Paris, Ffrainc. 1997-2001.
Darperais wersi Saesneg i oedolion mewn gwahanol ysgolion iaith preifat a thu mewn i gwmnïau ym Mharis a dysgais unigolion a grwpiau o’r cwmnïau canlynol: Brinks, Canal Plus, Citroen, Elida Fabergé, y Fyddin Ffrengig, ICAO (rhan o’r Cenhedloedd Unedig), Marionaud, Paribas Bank, Prada, Rothschild Bank, SAGEM ac Unilever.

Tiwtor Llawrydd yn y Gymraeg. Paris, Ffrainc. 1997-2001.
Dysgais y Gymraeg trwy gyfrwng y Ffrangeg fel athro llawrydd i unigolion a grwpiau. Trwy gydol fy nghyfnod ym Mharis, bu i mi gynnal monopoli yn hyn o beth. Paratois weithgareddau anffurfiol fel nosweithiau siarad Cymraeg misol ar gyfer y myfyrwyr fel gallant ymarfer eu hiaith mewn awyrgylch llai ffurfiol gyda siaradwyr Cymraeg mam iaith eraill.

Coleg Harlech CYG. Rhanbarth Gogledd Orllewin Cymru. 2005-2006.
Roeddwn yn brif diwtor y Gymraeg, ESOL a Ffrangeg ar bob lefel i Goleg Harlech CYG, Rhanbarth (Gogledd Orllewin Cymru) (http://www.harlech.ac.uk/) ar gyfer 2005-2006. Dysgais oddi mewn i adeiladau'r Coleg yn ogystal ag adeiladau cwmnïau fel Grampian Foods ac Ysbyty Gwynedd. Dysgais ar gyrsiau preswyl yn y Gymraeg a’r Ffrangeg dros y Pasg a’r haf yn Harlech yn 2006.

Prifysgol Babyddol Ioan Pawl II. Lublin, Gwlad Pwyl. 2006-2008.
O fis Hydref 2006 i fis Medi 2008, myfi oedd y Darlithydd mam iaith yn y Gymraeg a’r Saesneg ym Mhrifysgol Babyddol Ioan Pawl II, Lublin, Gwlad Pwyl (http://www.kul.pl/) yn dysgu blynyddoedd III, IV a V a fu’n dilyn rhaglenni MA mewn Ffiloleg a Llenyddiaeth Geltaidd a Saesneg. Yn ystod y cyfnod hwn, bu i mi ddechrau’r arferiad o gael ac o drefnu Diwrnodiau Blynyddol Cymreig ac yr oeddwn hefyd yn flaenllaw yn cymryd rhan yn y Diwrnodiau Celtaidd Blynyddol

Y Brifysgol Agored yn Nwyrain Lloegr. Caergrawnt a Dunstable. Er 2008.
Er mis Hydref 2008, myfi yw’r unig Ddarlithydd cyswllt yn y Gymraeg i’r Brifysgol Agored (http://www.open.ac.uk/) yn Nwyrain Lloegr yn dysgu grŵp o oedolion o’m cartref a thrwy’r Rhyngrwyd yn ogystal â thiwtorialau yng Nghaergrawnt.

Arddangosydd a Chynrychiolydd mewn Ffeiriau Iaith.
Expolangues, Paris, Ffrainc. 1998-2000 ac Er 2006.
Expolingua, Prâg, y Weriniaeth Tsiec. Er 2007.
Fi yw’r unig Arddangosydd a Chynrychiolydd o Gymru sy’n rhoi gwers gyfathrebol Gymraeg yn Expolangues Paris (http://www.expolangues.fr/) 1998-2000 ac er 2006 (trwy gyfrwng y Ffrangeg). Hefyd, rhoddais gyflwyniad i waith Cymuned http://www.cymuned.net/), y corff hawliau iaith a sifil i’r Cymry yn 2008 ar ôl i mi gael fy ethol eu Swyddog Iaith Ffrangeg a Chyswllt Rhyngwladol.

Fe’m cydnabyddir fel yr Athro Cymraeg a'r unig Gynrychiolydd swyddogol o Gymru yn Expolingua Praha (http://www.expolingua.cz/). Er 2007.

Cyfieithydd Llawrydd. Cymraeg, Ffrangeg, Saesneg. Er 2006.
Yr wyf yn gyfieithydd galluog a phroffesiynol yn fy nhair prif iaith broffesiynol.

Cynnwys fy ngwaith hyd yma: Taflennau gwybodaeth a phosteri i weithwyr ar gyfer A4e; Llythyrau a holiaduron ar gyfer yr Adran Addysg a Sgiliau a Phrif athrawon; Tystysgrif yswiriant ar gyfer AIG UK Limited; Deunydd addysgiadol ar gyfer Amnest Rhyngwladol; The Stakeholder Survey ar gyfer yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector; Yr Arolwg My Health Online ar gyfer cleifion y GIG yng Nghymru; Gwybodaeth i’r cyhoedd ar gyfer y defnydd o setiau teledu mewn hostelau i fyfyrwyr ar gyfer Ask4; Adran y Gymraeg o Gardiau Amlieithog y Prif Swyddog Gorfodaeth, Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi; Safle gwe i’r Fyddin; The Stakeholder Survey ar gyfer GoSkills; Arolygon a holiaduron ar gyfer gweithwyr yn y GIG yng Nghymru; Pecyn Gwybodaeth i Etholaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Llythyr ar gyfer y Gymdeithas Genedlaethol dros y Wynegon; Gwybodaeth i gwsmeriaid ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol Nokia; Hysbyseb am swydd ar gyfer Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales; Y Papur Gwyn ‘Working Together to Cut Crime and Deliver Justice.’ Cm 7247 ar gyfer Llywodraeth Ei Mawrhydi; llawysgrifau myfyrwyr TAU Lefel A mewn Cymdeithaseg a llawysgrifau myfyrwyr TGAU mewn Seicoleg ar gyfer yr OCR Examinations Board; Cyhoeddusrwydd ar gyfer Parc Themâu Oakwood; Pamffledi yn ymwneud â Sgiliau Proffesiynol ar gyfer llywodraethu; Gwybodaeth ar ffurf taflenni i’r cyhoedd ar gyfer Swyddfa Anabledd Llywodraeth Ei Mawrhydi; Safle gwe ar gyfer y Tribiwnlys Cosbau Traffig ac Arwyddion ar gyfer yr archfarchnad Wickes.

Golygydd Llawrydd. Cymraeg, Ffrangeg a Saesneg. Er 1997.
Yr wyf yn olygydd diwyd a galluog yn fy nhair prif iaith. Arbenigaf yn y pynciau canlynol:

Diwylliant Cymreig a Phrydeinig; Ffeithlen cyffredinol; Gwleidyddiaeth; Hanes; Ieithyddiaeth, yn arbennig Cymraeg a Saesneg Fel Ail Iaith/Iaith Dramor; Llenyddiaeth a Llyfrau tywys.

Rwyf wedi gweithio gyda’r cyhoeddwyr canlynol:

Editions Assouline; Editions Filipacchi Société Sonodip; Gwasg Carreg Gwalch; Gwasg Gwynedd; Gwasg Prifysgol Cymru; Hachette Livre; Hachette Tourisme a Michelin.

Yn ychwanegol, rwyf wedi prawf ddarllen cyfieithiadau Cymraeg cyd-weithwyr o’r dogfennau canlynol: Llinell Gymorth i gwsmeriaid y Swyddfa Bost™; Arolygon ar gyfer gweithwyr yn y GIG yng Nghymru; Holiaduron ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Ysgolion a Chyd-destunau ar gyfer Gwella Ysgolion a Gwybodaeth ynglŷn â thagio electronig ar gyfer troseddwyr a Serco Group plc.

Rwyf hefyd yn cyd-weithio’n aml â chyd-weithwyr academaidd i gywiro papurau a llyfrau, yn arbennig y rheiny sydd â chysylltiadau â Chymru a/neu’r Gymraeg. Isod ceir rhestr o lyfrau a chylchgronau yr wyf wedi cyd-weithio arnynt yn y cyswllt hwn, un ai cyn neu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi:

Langues sans Frontières gan Georges Kersaudy. Editions Autrement. 2008. Toujours Tingo gan Adam Jacot de Boinot. Penguin Books Ltd. 2007. Word of Mouth. Hebffinia cyf. 2006. L’aventure des langues en occident gan Henriette Walter. Le livre de poche. The meaning of tingo gan Adam Jacot de Boinot. Penguin Books Ltd. a Les langages de l’humanité gan Michel Malherbe. Editions Robert Laffont. Ill dau yn 2005. Welsh dictionaries in the twentieth century: A critical analysis gan Sabine Heinz Lincom Europa. 2002. La prononciation des langues européennes gan Pierre Maes. Les Editions du CFPJ. 1998 a Mediaeval Welsh Literature gan Andrew Breeze. Four Courts Press. 1997.

Rwyf hefyd wedi gohebu â nifer o gwmnïau sydd wedi paratoi deunyddiau gwallus eu Cymraeg megis: amserlenni rheilffordd; arwyddion a dogfennau ysgrifenedig ar gyfer y cyhoedd.

Cyrsiau iaith. 1993. 2006 ac er 2008.
Yr wyf ar hyn o bryd yn dilyn cwrs MA mewn Astudiaethau Celtaidd o hirbell gyda Phrifysgol Cymru, Llambed er 2008.

Mae gennyf y tystysgrifau canlynol ar ôl cwblhau’r cyrsiau priodol:

95% yn Lefel 3 Ffrangeg (Darllen: 27/30, Gwrando: 34/35 a Siarad: 34/35) mewn arholiad o dan nawdd Coleg Sant Martin, Caerhirfryn, Lloegr. 1993.

6 Credyd Rhwydwaith y Coleg Agored yn Sbaeneg i Ddechreuwyr ar ôl blwyddyn o gwrs gyda Choleg Menai, Caernarfon, Gwynedd, Cymru. 2006.

Pasio Tystysgrif Sylfaenol mewn Cyfieithu ar y pryd yn y gymuned wedi ei gymredoli gan Applied Language Solutions a Phrifysgol Middlesex, Lloegr. 2008.

Papurau a gweithiau llenyddol eraill. Er 1999.
Nid yw fy llyfr testun ar gyfer Dechreuwyr yn y Gymraeg, Croeso, wedi ei gyhoeddi eto. Fodd bynnag, yr wyf eisoes wedi ysgrifennu llawer o bapurau academaidd, ac mae rhai wedi ymddangos mewn cylchgronau. Mae eraill wedi eu cyflwyno mewn cynhadleddau a digwyddiadau ieithyddol eu naws yn Ffrainc ac yng Ngwlad Pwyl. Yr wyf hefyd wedi darparu awduron a chyhoeddwyr ag adolygiadau o’u llyfrau.

Cyhoeddiadau. Er 1999.
Dysgu Cymraeg ym Mharis. Yn Y Cymro. Chwefror 17 1999, 3.

Pleidiol wyf i’m hiaith. Yn Y Cymro, Mawrth 17 2006, 3 ac Yn Eco’r Wyddfa Mawrth 2006, 12.

Different number systems in Education: The Welsh Model. Yn Lublin Studies in Celtic Languages, LSCL. Cyf. 5, 251-260 a Review of Parallels between Celtic and Slavic gan Seámus MacMathúna a Maxim Fomin (goln.). Studia Celto-Slavica. 2005. Yn Lublin Studies in Celtic Languages, LSCL. Cyf. 5, 261-269. 2008.

Wales signs a problem. Yn The Linguist. Cyf. 48 Rhif 1, 18-19. 2009.

Papurau eraill. 2006-2008.
Cymuned : Les rôles d’un groupe de pression linguistique au pays de Galles.
Yn 26ain Expolangues, Paris, Ffrainc. Cymuned: The roles of a Welsh Language Pressure Group. Yn y Diwrnod Blynyddol Celtaidd, Prifysgol Babyddol Ioan Pawl II Lublin, KUL, Gwlad Pwyl. Giving the wrong message: An example of erroneous Welsh signage from the private sector. Yn y Diwrnod Blynyddol Cymreig, Prifysgol Babyddol Ioan Pawl II, KUL, Lublin, Gwlad Pwyl a’r 39ain Poznań Linguistic Meeting, PLM, Gniezno, Gwlad Pwyl a Ellis Williams: Gaucho, Farmer, Hero. Yn y Diwrnod Blynyddol Cymreig cyntaf, Prifysgol Babyddol Ioan Pawl II Lublin, KUL, Gwlad Pwyl. 2008.

The kingdoms of the cynghanedd: Word collages for wearied collegians. Yn y gyfres o Ddarlithoedd ar gyfer Doethuriaeth, Athrofa Ffiloleg Saesneg, Prifysgol Adam Mickiewicz, IFA-AMU, Poznań, Gwlad Pwyl a’r Diwrnod Blynyddol Celtaidd, Prifysgol Babyddol Ioan Pawl II Lublin, KUL, Gwlad Pwyl. 2007.

Darperais sylwadau ar y llyfr Colloquial Welsh gan Gareth King, Routledge. 2il arg. 2008 i’r awdur a’i gyhoeddwr yn 2006.

Prosiectau cyfredol. Er 2009.
Yr wyf ar hyn o bryd yn gweithio ar bapurau gyda’r themâu canlynol: Achosion o lenyddiaeth gorfforiaethol wallus ddwy-ieithog yng Nghymru (dros 32 000 o eiriau a chyda lluniau a llythyrau; Adolygiad o Le gallois de poche gan James Costa-Lynch. Assimil évasion. (Cyhoeddwyd yn 2005); Bratiaith yn y Gymraeg cyfredol; Strwythurau arddodiadol a meddiannol yn yr ieithoeddd Celtaidd a’r Saesnegau Celtaidd a Systemau rhifo’r Gymraeg.

Gwaith ymchwil a chyda’r cyfryngau. Er 1992.
Roeddwn yn Gynhyrchydd a Chyd-gyflwynydd rhaglen radio ddwy-ieithog Cymraeg-Saesneg llwyddiannus ar Huddersfield Community Radio yn 1992.

Yr oeddwn yn Gyd-ymchwilydd ar y ffilm-ddogfen Llythyrau Ellis Williams a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar S/4C yn 2006.

Rwyf wedi cael fy nghyfweld llawer o weithiau gan y cyfryngau ynghylch fy ngwaith proffesiynol, yr iaith Gymraeg a Chymru. Maent yn cynnwys: Radio Lublin FM a’r Cymro, ill dau yn 2008; Radio Bro, Paris yn 2007; The Daily Post a’r Herald Cymraeg, ill dau yn 2006; BBC Radio Cymru yn 2000 a BBC Radio Leeds yn 1993.

Aelodaethau o gyrff proffesiynol. Er 1998.
Rwyf yn Aelod Cyswllt o’r Society for Editors and Proofreaders, SfEP.

Fe’m hetholwyd yn Swyddog Ffrangeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Cymuned yn eu CCB yn 2007.

Mae gennyf hefyd yr Aelodaethau proffesiynol canlynol:

The Chartered Institute of Linguists, CIL.
The International Association for Translation and Intercultural Studies, IATIS
The North American Association for Celtic Language Teachers, NAACLT.

Yn dilyn fy llwyddiant yn nhri arholiad Iaith Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, mae gennyf hawl i fy ngalw yn Siôn o Ewrop a gwisgo Gwisg Las Ieithydd.

Campau a gweithgareddau hamdden
Dyfarnwyd cwpan i mi ar sail fod yn aelod o dîm buddugol mewn cystadleuaeth a alwyd yn Yorkshire’s Largest General Knowledge Quiz, a gynhaliwyd yn Huddersfield ym mis Chwefror 1993.

Aelod brwd o glwb Scrabble™ Duplicate Ffrangeg ym Mharis, Ffrainc, fe’m dodwyd yn y 6ed safle allan o 113 ar ddiwedd y tymor 1997-1998.

Bu i mi deithio trwy India ar fy mhen fy hun mewn coets, trên ac ar droed dros gyfnod y Nadolig/y Flwyddyn Newydd, 1999-2000.

Cynrychiolais Ffrainc fel rhan o dîm mewn cystadleuaeth Criced Mewnol yn Fiena, Awstria ym mis Mawrth 2000.

No comments:

Post a Comment