Wednesday 25 March 2009

Beth sy'n newydd? Wel, mae Cymru wedi colli ei theitl fel Pencampwyr Ewrop yn Rygbi'r Undeb ar ol i Iwerddon ein curo 15-17 yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf. Trwy hyn, maen nhw'n bencampwyr twrnameint y 6 gwlad, yn ennill dim ond eu hail Gamp Lawn a'r Goron Driphlyg. Da iawn, chi Wyddelod.

Dw i ar ganol dau beth pwysig i'r Brifysgol Agored. Marcio gwaith myfyrwyr ar gyfer eu 3ydd asesiad - ysgrifenedig a llafar, yn ogystal a chymryd rhan mewn cwrs hyfforddi rhai sy'n cymedroli sgyrsiau ar y rhyngrwyd mewn fforymau. Bydda i wedi gorffen y cyntaf gyda hyn gobeithio, a'r ail erbyn diwedd wythnos nesaf. Ac ar ddydd Sadwrn, dw i'n mynd i Gasergrawnt eto i gael cwrs o hyfforddiant ac wedyn clywed Miri yn y cor yng nghadeirlan St Alban gyda'r nos.

Ac ym myd gwleidyddiaeth, mae arolwg o dros 1 000 o Gymry yn dweud bod 48% ohonynt yn dymuno cael rhagor o bwerau i'r Cynulliad. Mae'r stori ar safle gwe BBC Cymru.

No comments:

Post a Comment